Baner y Cyngor Nordig
Mae Baner y Cyngor Nordig yn las (PMS 300 U), gyda motiff crwn arddulliedig o alarch gwyn. Dewiswyd symbol yr alarch i gynrychioli'r Cyngor Nordig, a Chyngor Gweinidogion Nordig, ym 1984. Mae'r alarch Nordig yn symbol o ymddiriedaeth, uniondeb a rhyddid.[1] Fe'i cynlluniwyd hefyd i symboleiddio cydweithrediad Nordig ehangach. Dyluniwyd y fersiwn gyfredol gan Kontrapunkt yn 2016.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Defnyddiwyd symbol yr Alarch gyntaf ar boster ar gyfer Diwrnod Nordig ym 1936.[2] Mae'r Alarch yn symbol o gydweithrediad Nordig a'r logo yw'r logo swyddogol ar gyfer cydweithrediad Nordig, y Cyngor Nordig a Chyngor y Gweinidogion Nordig.[3]
Hen Gynllun
[golygu | golygu cod]Cyn 2016, roedd y faner yn wyn, gyda motiff crwn arddulliedig o alarch gwyn ar ddisg las (Pantone Reflex Blue C). Roedd gan yr Alarch ddigon o blu adenydd yn sefyll dros wyth aelod a thiriogaeth y Cyngor: Denmarc, y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Norwy, Sweden, Åland, Ynysoedd Ffaröe a'r Ynys Las. Dyluniwyd y faner gan Kyösti Varis, arlunydd o'r Ffindir.
Mae holl aelodau'r Cyngor ac eithrio'r Ynys Las yn defnyddio Baner y Groes Llychlynnaid. Defnyddiwyd y Groes Nordig hefyd ym maner Undeb Kalmar. Undeb Kalmar oedd yr unig dro pan oedd pob gwlad Nordig o dan un wladwriaeth - felly yn draddodiadol mae wedi bod yn arwydd o undod cyn i'r Cyngor Nordig fabwysiadu'r faner alarch.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Pennod Logo Archifwyd 2022-07-07 yn y Peiriant Wayback Llawlyfr Dyluniad ar gyda Cyngor Gweinidogion y Cyngor Nordig.
- www.crwflags.com, Cyngor Nordig, Gwefan Flags of the World
- www.norden.org Y Cyngor Nordig
- Hanes symbol yr Alarch, logo Cydweithrediad Nordig (Nordic Co-operation)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Design manual Nordic Council of Ministers and Nordic Council". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-07. Cyrchwyd 2021-09-28.
- ↑ "History of the logo", Nordic Cooperation
- ↑ "Design manual Nordic Council of Ministers and Nordic Council". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-07. Cyrchwyd 2021-09-28.